Ysgol Gymunedol Dolwyddelan School

Croeso i Wefan Ysgol Gymunedol Dolwyddelan

Mae Ysgol Dolwyddelan yn un o Ysgolion Ffederasiwn Capel Coed-Elan, sef ffederasiwn o dair ysgol fach, wledig sydd yn uwch ddyffryn yr afon Gonwy. Mae hi’n ysgol Gynradd Sirol o ddosbarth Meithrin hyd at flwyddyn 6.

Dynodir yr ysgol yn Ysgol Gymraeg yn ôl polisi iaith yr awdurdod addysg. Cymraeg yw’r prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol, ac anelir at sicrhau bod y disgyblion yn gwbl ddwyieithog erbyn iddynt drosglwyddo i’r uwchradd.

Ein gweledigaeth yma yw sicrhau addysg, profiadau a chyfleoedd o’r ansawdd orau bosibl er mwyn galluogi POB plentyn i ddatblygu i’w lawn botensial i fod yn unigolyn annibynnol, hyderus a llwyddiannus ar gyfer cymdeithas sy’n prysur newid; gwneir hyn o fewn awyrgylch gefnogol, gartrefol a hapus ein hysgol - ac felly ein harwyddair yw ‘Gyda’n gilydd, llwyddwn.’

‘Gyda’n gilydd, llwyddwn’

ss-3

Twitter

Calendar

Manylion Cysylltu

Pennaeth Strategol: Mrs Nia H. Jones-Artell

Cyfeiriad: Ysgol Dolwyddelan, Ffordd Tŷ Isaf, Dolwyddelan. Conwy LL25 0SZ

Rhif Ffôn: 01690 750293

E-bost: pennaeth@dolwyddelan.conwy.sch.uk

Map Lleoliad

Cyngor Conwy Council logo

Eco-Sgolion Eco-Schools logo

Ysgolion Iach Conwy Healthy Schools logo

Siarter Iaith Gymraeg logo

Seren a Sbarc