Ysgol Gymunedol Dolwyddelan School

Gwybodaeth

Mae Ysgol Dolwyddelan yn un o Ysgolion Ffederasiwn Capel Coed-Elan.

Mae hi’n ysgol Gynradd Sirol o ddosbarth Meithrin hyd at flwyddyn 6 ac yn ysgol ddyddiol, Gymraeg, gydaddysgol.

Cyflogir 2 o Athrawon llawn amser, CADY (Cydlynydd Anghenion Ysgol Ychwanegol) sy’n gweithio’n strategol ar draws y ffederasiwn am ddiwrnod pob wythnos, un Cymhorthydd Dosbarth llawn amser a Phennaeth Strategol sy’n gyfrifol am y dair ysgol y ffedrasiwn.

Mae’r ysgol yn darparu Clwb Brecwast dyddiol am ddim sy’n cychwyn am 08:10 a Chlwb Urdd ar ôl ysgol ddydd Llun sy’n rhedeg tan 16:00.

Polisi Derbyn
Plant Cyn-Ysgol - Derbynnir plant yn rhan amser, yn y boreau, ar ddechrau’r tymor sy’n dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed.

Plant Meithrin – Yn rhan amser, yn y boreau, ar ddechrau blwyddyn addysgol newydd (Medi) pryd y byddant yn dathlu eu pen-blwydd yn 4 oed yn ystod y cyfnod : Medi - Awst.

Plant Blwyddyn Derbyn - Yn llawn amser ym mis Medi yn dilyn eu pen blwydd yn 4 oed.

Yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am bolisi derbyn yr ysgol, ac mae copi o’u polisi ar gael gan Adran Addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar eu gwefan www.conwy.gov.uk

Mae Meithrinfa ‘Twt Lol’ (Pentrefoelas) yn cynnig gwasanaeth casglu plant Cyn-ysgol/Meithrin o’r ysgol am 12:55 i fynychu’r feithrinfa am weddill y dydd.
Am fanylion pellach cysylltwch gyda Lowri Jones – Rheolwraig ‘Twt Lol’ (01690 770335)

Cyngor Conwy Council logo

Eco-Sgolion Eco-Schools logo

Ysgolion Iach Conwy Healthy Schools logo

Siarter Iaith Gymraeg logo

Seren a Sbarc